Croeso i Hwb STEM Gogledd!
![]() |
Mae Mawrth 7ed i'r 12eg o Fawrth yn Wythnos Gyrfaoedd Cenedlaethol - pa gyfle gwell i ddechrau meddwl am eich trywydd gyrfa? Cymerwch olwg ar wefan Gyrfa Cymru i ddysgu mwy am gyfleoedd a chyrsiau STEM e.e., neu ymwelwch a gwefan Connectr - adnodd mentora ar-lein sy'n hybu gyrfaoedd mewn meysydd amrywiol? Wyt ti'n rhan o brosiect STEM Gogledd yn barod? Cofia lenwi dy Gynllun STEM Gogledd gyda dy Fentor STEM! Eisiau cysylltu i wybod mwy? Gyrrwch ebost at stemgogledd@gwynedd.llyw.cymru Gwneud rhywbeth arbennig i nodi'r Wythnos? Rydym eisiau gweld beth rydych yn gwneud! Tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol - defnyddiwch @SGogledd neu nodwch hashnod #STEMGogledd |
Fel y gwyddoch, mae mis Chwefror a Mawrth yn fisoedd sy'n dathlu Merched mewn meysydd STEM. Eleni rydym yn lansio adran newydd i'r Hwb, sef 'Merched mewn STEM' - bydd yn lansio ar yr 8fed o Fawrth, Diwrnod Rhyngwladol Merched. Yma cewch ddysgu am ein gwaith i hyrwyddo merched mewn STEM, a chael defnydd o adnoddau a gwybodaeth i helpu ysbrydoli disgyblion ifanc.
![]() |
Mae pecyn cymorth cyfathrebu’r Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd wedi’i ddatblygu i helpu i adeiladu diwylliant ‘un sefydliad’ yn fewnol, tra’n cyfathrebu’n allanol wir ehangder gwyddor gofal iechyd yng Nghymru. Mae'r pecyn cymorth wedi'i ddwyn ynghyd diolch i ymdrechion carfan eang o unigolion a'i nod yw tynnu sylw at y cyfleoedd cyffrous sydd ym maes gwyddor gofal iechyd yng Nghymru. Cliciwch yma i ddysgu mwy! The Healthcare Science Programme communication toolkit has been developed to help build a 'one organisation' culture internally, while communicating externally the true breadth of healthcare science in Wales. The toolkit has been brought together thanks to the efforts of a wide range of individuals and aims to highlight the exciting opportunities in healthcare science in Wales. Click here to learn more! |
![]() |
PODLEDIAD NEWYDD GAN TECHNOCAMPS "Yn cyflwyno...
Technotalks: Podledliad Technocamps! |